Cyn-filwyr Cymru yn cael cefnogaeth i ailadeiladu eu bywydau
Mae’r elusen Lluoedd Arfog Alabaré yn cefnogi cyn-filwyr yng Nghymru sydd wedi cael trafferth neu wedi bod yn ddigartref ers gadael y Gwasanaethau.
Gyda thua 15,000 o bersonél yn gadael y Lluoedd Arfog bob blwyddyn (MOD 2020) ledled Cymru amcangyfrifir bod dros 115,000 o gyn-filwyr, sef 1 ym mhob 22 o bobl dros 16 oed (Llywodraeth Cymru 2022).
Gweld y dudalen hon yn SaesnegMae’r mwyafrif helaeth yn trawsnewid i stryd sifil heb broblem, fodd bynnag, mae lleiafrif bach ond arwyddocaol yn wynebu problemau. Amcangyfrifir bod tua 15% yn cael trafferth ymgysylltu a gwneud trosglwyddiad cadarnhaol i fywyd sifil (Lleng Brydeinig Frenhinol). Gallai’r achos o’u trafferthion fod wedi’i wreiddio yn y profiadau a gawson nhw wrth wasanaethu ond yn cael eu chwyddo gan heriau sy’n bodoli yn eu bywydau sifil.
Un cyn-filwr sydd wedi elwa ar gefnogaeth Alabaré yw David. Ffeindiodd David ei hun yn byw ar y strydoedd ar ôl dirywiad iechyd meddwl a ddaeth â’i briodas i ben.
Dywed David:
“Ymunais pan oeddwn i’n 19 gan wasanaethu 4 blynedd yn y Magnelau Brenhinol. Cefais amser gwych yn y Fyddin ac roeddwn i’n caru’r amseroedd hynny ond ar ôl dod yn ôl o Irac roeddwn i’n cael trafferth fawr gyda PTSD heb ei ddiagnosio. Trodd allan ar ôl ychydig o flynyddoedd bod gen i PTSD ond nid oedd wedi’i ganfod yn wreiddiol. Yna gadewais Fyddin Prydain, roedd pethau’n iawn i ddechrau… ceisiodd fy ngwraig, fy mhlant a minnau setlo i mewn i’n bywyd newydd a dechreuais fusnes fy hun yn gweithio fel Hyfforddwr Personol. Ond dirywiodd fy iechyd meddwl a stopiais i weithio, fodd bynnag, roeddwn yn ddyn tŷ ac yn edrych ar ôl fy merched a roddodd bwrpas newydd imi. Arweiniodd straen o fewn y briodas at ddadfeilio ein priodas. Doedd gen i nunlle i fynd ac yn y pen draw roeddwn i’n cysgu ar y strydoedd ond daeth llinell bywyd drwy Alabaré.”
Rhoddodd Alabaré gartref i David yn eu tŷ yn Ne Cymru ac fe’i cefnogwyd i ddechrau ar ei daith adfer
“Yn Hydref 2023 deuthum i Alabaré lle rwy’n teimlo’n ddiogel ac yn teimlo cysylltiad mawr â’m ffydd Gristnogol gan fy mod wedi fy medyddio’r flwyddyn flaenorol. Nawr mae gen i gartref ac rwy’n cael fy nghefnogi ac yn cael fy nghlywed. Mae gen i arweiniad gwych ac nid wyf yn teimlo’n unig fwyach, gwn os oes angen unrhyw beth arna i neu dim ond siarad gallaf wneud hynny gydag unrhyw un o’r staff. Mae gen i gartref diogel a gallaf fynd i’r blaendraeth bob dydd. Rwy’n gwirfoddoli gyda’r eglwys leol a’r hwb Cyn-filwyr lleol. Mae Alabaré yn rhoi cefnogaeth i mi gyda’m pryder i fy helpu i gymryd rhan yn eu lles mewn ffordd na fyddaf yn teimlo’n llethol.
“Cafodd Alabaré apwyntiad imi gyda’r GIG Cyn-filwyr a allai roi fy niagnosis cywir imi sy’n golygu fy mod ar y feddyginiaeth gywir bellach sydd wedi arwain at fywyd sefydlog. Rwy’n gweithio’n galed i adeiladu perthynas gwell gyda fy nheulu ac i ddod o hyd i gartref tymor hir diogel a sefydlog. Nid wyf yn gwybod ble byddwn i pe na bawn wedi cael fy nghyfeirio at Alabaré. Gallaf ddweud yn ddiogel bod Alabaré wedi rhoi’r sylfeini i mi fynd ymlaen a bod yn llwyddiannus gyda pha bynnag lwybr gyrfa a ddewisaf ei gymryd.”
Amcangyfrifir bod o’r 274,000 o bobl yn y DU sy’n ddigartref mae rhwng 3% a 6% ohonynt yn Gyn-filwyr (Shelter 2021). Yng Nghymru, Alabaré yw’r darparwr mwyaf o gefnogaeth i gyn-filwyr digartref neu fregus yn y wlad gan redeg 7 cartref, rhaglen iechyd a lles awyr agored, cynllun hyfforddi diwydiant adeiladu hunan-adeiladu ac yn arweinwyr wrth eirioli dros wasanaethau integredig i gyn-filwyr. Gan geisio darparu rhwydwaith o gefnogaeth, mae Alabaré hefyd yn gweithio gydag elusennau a darparwyr eraill yn y wlad fel y GIG Cyn-filwyr a’r Gwasanaethau Lles Meddygol Amddiffyn i sicrhau bod gan gyn-filwyr bregus fynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Mae David yn un o’r 37 o gyn-filwyr sy’n byw gyda Alabaré heno yng Nghymru. Mae gan bob un Geithiwr Cefnogi pwrpasol i’w helpu i ddewis llwybr eu hunain yn ôl i fywyd annibynnol llwyddiannus. Mae’r gefnogaeth y mae ef ac eraill di-ri yn ei chael yn Alabaré yn bosibl diolch i haelioni cefnogwyr yr elusen ac ariannu gan Swyddfa Materion Cyn-filwyr (OVA) drwy Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog o dan y rhaglen Lleihau Ddigartrefedd Cyn-filwyr, Cronfa Gymwynasgar y Fyddin, Sefydliad y Cyn-filwyr ac Ymddiriedolaeth Cymwynas a’r Elusen Forol Frenhinol a Morwyr y Llynges Frenhinol.
Bydd gan Alabaré stondin yn Sioe Awyr Cymru ar y 6ed a’r 7fed o Orffennaf lle gallwch ddarganfod mwy am eu cefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru.
*defnyddiwyd modelau i barchu cyfrinachedd ein cleientiaid.